SL(6)294 – Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2022
Cefndir a Diben
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 1992 ("Rheoliadau 1992").
O dan Ran 2 o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (ardrethu annomestig, cronni), mae'n ofynnol i awdurdodau bilio (yng Nghymru, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) dalu symiau (a elwir yn gyfraniadau ardrethu annomestig) i Weinidogion Cymru. Mae Rheoliadau 1992 yn cynnwys rheolau ar gyfer cyfrifo'r cyfraniadau hynny ar gyfer awdurdodau bilio Cymru.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992 drwy ddefnyddio Atodlen 4 newydd (ffigurau'r boblogaeth oedolion).
Gweithdrefn
Negyddol.
Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.
Materion technegol: craffu
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad
07 Rhagfyr 2022